Crannog
Oddi ar Wicipedia
Mae crannog neu crannóg yn sefydliad ar ynys, artiffisial fel rheol ond weithiau naturiol, mewn llyn. Daw'r enw o'r gair Gwyddeleg Canol crannóc, o crann, "coeden".
Prif fantais crannog oedd ei bod yn hawdd i'w hamddiffyn. Gellir cyrraedd at y crannog ar hyd cob neu dros bont o bren. Credir fod yr esiampl hynaf, Eilean Domhnuill yn Loch Olabhat ar ynys Gogledd Uist, yn dyddio o 3200-2800 CC.. Mae'r rhan fwyaf ohonynt i dyddio o Oes yr Haearn a'r Canol Oesoedd Cynnar.
Yn Iwerddon a'r Alban y ceir y rhan fwyaf ohonynt, ond mae un esiampl yng Nghymru, yn Llyn Syfaddan, Powys. Roedd teulu brenhinol Brycheiniog o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog, sy'n dyddio o ddiwedd y 9fed ganrif, yma.