Abaty Cwm-hir (cymuned)
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys yw Abaty Cwm-hir neu Abaty Cwm Hir (Saesneg: Abbeycwmhir neu Abbey Cwmhir). Saif ger Afon Clywedog, i'r gogledd o dref Llandrindod.
Enwyd y pentref a'r gymuned ar ôl Abaty Cwm-hir, abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1143. Dim ond adfeilion sydd ar ôl bellach, ond gan yr abaty yma yr oedd yr eglwy fwyaf o abatai Cymru. Yma y claddwyd Llywelyn ap Gruffudd.
Ail-adeiladwyd eglwys pentref Abaty Cwm-hir yn 1866. Mae yma dafarn, yr Happy Union Inn, sy'n adeilad cofrestredig. Adeiladwyd Neuadd Cwm-hir yn 1867. Mae Llwybr Glyndŵr yn mynd trwy'r gymuned.