Tal-y-bont ar Wysg
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Tal-y-bont ar Wysg (Saesneg: Talybont on Usk). Saif ychydig i'r gorllewin o Afon Wysg, a bob ochr i Gamlas Aberhonddu a'r Fenni. Ar un adeg roedd y pentref yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân; mae'n awr yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ganed y bardd ac awdur Roland Mathias yma.
Heblaw pentref Tal-y-bont ar Wysg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llansanffraed, lle mae'r bardd Henry Vaughan wedi ei gladdu, a Llanddeti. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 743.