Henry Vaughan
Oddi ar Wicipedia
Bardd metaffisegol oedd Henry Vaughan (17 Ebrill 1622 (?) - 28 Ebrill(?) 1695).
Ganed ef a'i efaill, yr athronydd Thomas Vaughan, yn Nhrenewydd, Sir Frycheiniog. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen, er na raddiodd yno, a bu'n astudio'r gyfraith am gyfnod yn Llundain cyn cael ei alw adref ar ddechrau'r Rhyfelau Cartref. Roedd yn cefnogi'r blaid frenhinol yn ystod y Rhyfelau Cartref. Cafodd droedigaeth grefyddol tua'r flwyddyn 1650 o dan ddylanwad George Herbert. Bu'n darllen llyfrau defosiynol a gweithiau ar athroniaeth gudd a chyfrin. Dechreuodd weithio fel meddyg. Ysgrifennodd Katherine Philips gerdd iddo. Bu farw yn 1695 ac fe'i gladdwyd yn Llansantffraed, Sir Frycheiniog.
[golygu] Llyfrau
- Poems (1646)
- Silex scintillans (1650)
- Olor Iscanus (1651)
- The Mount of Olives (1652)
- Flores Solitudinis (1654)
- Thalia Rediviva (1678)