Capel Isaf
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan gwledig yng nghymuned Honddu Isaf ym Mrycheiniog, de Powys, yw Capel Isaf. Mae'n gorwedd i'r de o Fynydd Epynt ar lan afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg.
Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 4 milltir i'r de. Y pentrefi cyfagos yw Capel Uchaf a Chastell Madog i'r gogledd, a Pwllgloyw, a Llandefaelog Fach i'r de, ar y lôn i Aberhonddu.