Castell Paun
Oddi ar Wicipedia
Castell, pentref a chymuned ym Mhowys yw Castell Paun (Saesneg: Painscastle). Saif yn agos i'r ffîn a Lloegr, tua hanner y ffordd rhwng Llanfair-ym-Muallt a'r Gelli Gandryll.
Daw'r enw o enw'r arglwydd Normanaidd Pain Fitz John, a adeiladodd y castell cyntaf yma yn hanner cyntaf y 12fed ganrif. Lladdwyd ef gan y Cymry yn 1137, a daeth ardal Elfael i feddiant Madog ab Idnerth. Cipiwyd y castell gan William de Braose tua 1195. Gwarchaewyd ar y castell gan Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth, yn 1196, ond gwnaed cytundeb heddwch. Yn 1198 gosododd Gwenwynwyn ab Owain o Bowys warchae ar y castell. ond gorchfgwyd ef gan fyddin dan Geoffrey fitz Peter
Meddianwyd y castell gan Iorwerth Clud yn 1215. Llosgwyd y castell gan y Cynry yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn ap Iorwerth yn y cylch. Fe'i hail-adeiladwyd fel castell o gerrig gan y brenin Harri III a Hubert de Burgh yn 1231. Yn 1233 daeth y castell i feddiant Ralph Tosny, a bu ym meddiant y teulu hyd nes i Llywelyn ap Gruffudd ei gipio yn 1265. Ail-adeiladwyd y castell gan Ralph Tosny arall yn 1276.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Remfry, P.M., Painscastle, 1066 to 1405 (ISBN 1-899376-38-0)