Aberriw
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Aberriw (Saesneg: Berriew). Saif i'r de-orllewin o'r Trallwng.
Cysegrwyd eglwys Aberriw, sy'n dyddio o'r 19eg ganrif yn ei ffurf bresennol, i sant Beuno, oedd yn ôl traddodiad yn frodor o'r pentref. Yn y Canol Oesoedd roedd yn ganolfan grefyddol i gantref Cedewain. Mae Capel Pentre Llifior (1797) yn un o adeiladau cynharaf y Wesleaid yng Nghymru.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,306.