Llanfechain
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phlwyf yng ngogledd Powys yw Llanfechain. Fe'i lleolir ar y lôn B4393 9 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Trallwng a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Groesoswallt, dros y ffin yn Swydd Amwythig.
Mae'n gorwedd ar lan Afon Cain tua hanner ffordd rhwng Llanfyllin a Llansantffraid-ym-Mechain, y ddau bentref cyfagos. Fel yn achos Llansantffraid, fe'i enwir ar ôl hen gantref Mechain.
Mae eglwys Llanfechain wedi'i chysegru i Sant Garmon.
Ganwyd y bardd a golygydd Walter Davies (Gwallter Mechain) yn y plwyf ar 15 Gorffennaf, 1761.