Llangynog (Powys)
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yng ngogledd Powys yw Llangynog. Mae'n gorwedd ar lan Afon Tanad, ger cyflifiad yr afon honno ag Afon Eirth, ar y ffordd B4391 tua hanner ffordd rhwng Y Bala i'r gogledd-orllewin a'r Trallwng i'r de-ddwyrain, yn Nyffryn Tanad.
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys gan Sant Cynog (m. 492).
I'r gogledd a'r gorllewin o'r pentref mae bryniau moel Y Berwyn yn ymestyn am filltiroedd. Mae lôn gul yn arwain o'r pentref i fyny cwm diarffordd i blwyf hanesyddol Pennant Melangell gydag eglwys wedi ei chysegru i'r santes Melangell.
Tu ôl i'r pentref i'r gogledd ceir bryngaer Craig Rhiwarth, ar lethrau Y Clogydd (1954 troedfedd), sy'n dyddio i Oes yr Haearn.