Ceri (cymuned)
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Ceri (Saesneg: Kerry). Enw gwreiddiol y pentref oedd Llanfihangel yng Ngheri. Saif i'r de-ddwyrain o'r Drenewydd ar y briffordd A489, a gerllaw Afon Miwl.
Gerllaw pentref Ceri mae gweddillion castell mwnt a beili, a adeiladwyd tua 1130 ac a oedd yn brif ganolfan cwmwd Ceri. Roedd ffiniau'r cwmwd yn cyfateb yn fras i ffiniau'r gymuned heddiw. Ail-adeiladwyd yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i sant Mihangel, yn 1176. Ceri oedd pen draw Rheilffordd Ceri, oedd yn rhedeg o Abermiwl.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,922.