Llanbadarn Fynydd
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Llanbadarn (gwahaniaethu).
Pentref bychan gwledig yng nghanolbarth Powys yw Llanbadarn Fynydd. Saif ar briffordd yr A483 yn y bryniau tua hanner ffordd rhwng Y Drenewydd i'r gogledd a Llandrindod i'r de.
Mae'r pentref ar lan Afon Ieithon. Mae'r bryniau o'i gwmpas yn cynnwys Moel Wilym (469m) a'r Moelfre (475m) i'r dwyrain a'r Ddyle (485m) i'r gorllewin. Y pentrefi agosaf yw Llananno a Llanbister i'r de.
Mae eglwys y plwyf, sy'n rhoi ei henw i'r pentref, yn un o nifer yng Nghymru a gysylltir â Sant Padarn. Yno ceir gweld enghreifft dda o ysgrîn bren ganoloesol a chroglofft mewn arddull sy'n nodweddiadol o'r Canolbarth a'r Gororau.