Dolanog
Oddi ar Wicipedia
Pentef bach sy'n gorwedd 4 milltir i'r gogledd-orllewin o Llanfair Caereinion ym Maldwyn, Powys, ydy Dolanog.
Gorwedd y pentref ar lannau afon Efyrnwy wrth droed Allt Dolanog. Ceir olion hen fryngaer ar ben yr allt.
Rhed Llwybr Glyndŵr heibio i'r gogledd o'r pentref. Mae'r B4382 yn cysylltu Dolanog â Llanfihangel-yng-Ngwynfa, tua 4 milltir i'r gogledd dros y bryniau.