Llangurig
Oddi ar Wicipedia
Pentref ym Mhowys, canolbarth Cymru, yw Llangurig. Fe'i lleolir ar Afon Gwy yng ngogledd-orllewin y sir, ar gyffordd yr A44 a'r A470 tua 3 milltir i'r de o Lanidloes.
Dywedir mai Llangurig yw'r pentref uchaf yng Nghymru ar uchder o 1000 troedfedd.
Mae eglwys y plwyf yn gysegredig i Sant Curig (?5ed ganrif). Yn ôl traddodiad sefydlwyd clas (mynachlog gynnar) ganddo ar y safle. Dywedir ei fod wedi derbyn tir y clas gan dri o feibion Maelgwn Gwynedd, sef Ceredig, Mael ac Arwystl, am fod ffiniau eu tiroedd (Ceredigion, Maelienydd ac Arwystli) yn cwrdd ger Llangurig (er bod Llangurig ei hun yn rhan o Arwystli). Cysylltir Curig â phentref Capel Curig yn Eryri hefyd.
I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn isel Foel Gurig. Wyth milltir i'r gorllewin, ar y lôn A470 i Aberystwyth, ceir pentref bychan Eisteddfa Gurig.
Ceir yn ogystal ddau gapel bychan yn y pentref.