Abertridwr (Powys)
Oddi ar Wicipedia
- Am y pentref o'r un enw ym Morgannwg, gweler Abertridwr (Caerffili).
Pentref bychan ym Maldwyn, Powys, yw Abertridwr. Gorwedd ar lan ogleddol afon Efyrnwy, tua milltir i'r dwyrain o Llanwddyn a'r argae ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy.
Mae'r B4393 yn ei gysylltu â Llanwddyn ac â Llanfyllin i gyfeiriad y dwyrain.