Bugeildy
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Bugeildy (Saesneg: Beguildy). Saif bron ar y ffîn a Lloegr, ar lan orllewinol Afon Tefeidiad, i'r gogledd-orllewin o Dref-y-clawdd. Mae croglen yr eglwys yn dyddio o'r 15fed ganrif, ac mae gweddillion castell mwnt a beili Normanaidd gerllaw.
Heblaw pentref Bugeildy, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanddewi-yn-Heiob a Cnwclas. Ganed Vavasor Powell yng Nghnwclas. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 704.