Walton, Powys
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghymuned Pencraig ym Mhowys yw Walton. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo; daw'r enw o'r Eingl-Sacsoneg Wealas-tun; "tref y Brythoniaid" neu "tref y Cymry". Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ar y briffordd A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffîn a Lloegr.
Cafwyd hyd i balisâd mawr o goed o'r cyfnod Neolithig yn Walton yn ddiweddar, sy'n un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod hwn yng Nghymru. Gerllaw mae pedair maen hir, 5 - 6 troedfedd o daldra, a elwir yn Four Stones.