Maesyfed (pentref)
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys yw Maesyfed (Saesneg: New Radnor). Saif yn agos i'r ffîn a Lloegr, ger cyffordd yr A44 a'r B4372, i'r dwyrain o dref Llandrindod.
Ar un adeg, y pentref oedd canolfan arglwyddiaeth Maesyfed, a chynlluniwyd y sefydliad fel bwrdeisdref. Daeth Gerallt Gymro yma gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188. Wedi ffurfio Sir Faesyfed, Maesyfed oedd y brif dref hyd y 17eg ganrif, pan ddaeth Llanandras yn brif dref yn ei lle.
Ceir castell yma, a adeiladwyd gan Philip de Breos tua 1096. Newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn i Owain Glyndŵr ei ddinistrio.
Mae'r gymuned yn cynnwys rhan sylweddol o Fforest Clud, gan gynnwys y pwynt uchaf, Rhos Fawr (660 medr). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 410.