Llanfrynach
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn ne Powys (ardal Brycheiniog) yw Llanfrynach. Mae'n gorwedd ar ochr ogleddol Bannau Brycheiniog tua 2 filltir i'r de-ddwyrain o Aberhonddu.
Yn ôl traddodiad mae Llanfrynach yn un o sawl lle yng Nghymru a sefydlwyd gan y sant Brynach Wyddel, oedd yn gaplan i Frychan, brenin Brycheiniog.
Roedd y llenor 'Brynach' (J. Brynach Davies: 1873 - 1923) yn frodor o Lanfrynach.