Pentref Dolau Honddu
Oddi ar Wicipedia
Pentref gwledig ym Mrycheiniog, de Powys, yw Pentref Dolau Honddu. Mae'n gorwedd yn uchel ar lethrau deheuol Mynydd Epynt ger tarddle afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg. Enwir y pentref ar ôl y dolydd ar lan afon Honddu.
Lleolir y pentref tua 4 milltir i'r de-orllewin o dref Llanfair-ym-Muallt ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 9 milltir i'r de, ac sy'n ei gysylltu hefyd â Chwm Irfon i'r gogledd. Y pentref agosaf yw Capel Uchaf, dwy filltir i'r de.