Craig Rhiwarth
Oddi ar Wicipedia
Bryngaer o Oes yr Haearn yng ngogledd-orllewin Powys yw Craig Rhiwarth. Cyfeirnod OS: SJ 057270.
Bryngaer 40 acer ym Maldwyn, Powys, yw Craig Rhiwarth. Tu ôl i'r gaer mae'r clogwyni'n codi 500 troedfedd tra bod llethr syrth yn disgyn 1200 troedfedd i bentref Llangynog islaw. Mae'n gorwedd y tu ôl i bentref Llangynog, ar lethrau Y Clogydd (1954 troedfedd), sy'n rhan o gadwyn Y Berwyn. Rhed Afon Tanat wrth droed y graig. Mae'n safle naturiol cryf iawn gyda golygfeydd eang dros Ddyffryn Tanat islaw.
I'r gogledd mae hen fur adfeiliedig iawn yn dilyn rhediad naturiol y tir i fwlch tua 1500 troedfedd i fyny. Ymddengys fod yr unig fynedfa yn defnyddio hollt naturiol yn y graig ar yr ochr orllewinol. Mae wyneb y safle'n anwastad iawn, a cheir olion cytiau crwn yma ac acw yng nghanol y gaer, yn wynebu'r de. Ceid felly digon o le i gadw anifeiliad ac ymddengys fod y gaer wedi'i chodi fel amddiffynfa i gadw'r preiddiau'n ddiogel pan fyddai rhaid yn hytrach na fel trigfan barhaol (ni fyddai'n addas i fyw ynddo yn y gaeaf).
Cloddiwyd rhannau o'r safle yn 1933, ond heb canfod unrhyw wrthrych o waith dyn. Ond mae'r ffaith fod hafotai canoloesol ar ran o'r safle yn dangos fod hanes hir i'r gaer.
[golygu] Cyfeiriadau
- A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn I. Ll. Foster a Glyn Daniel (gol.), Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |