Crug Hywel
Oddi ar Wicipedia
Bryn â chopa gwastad trawiadol ar ymyl ddeheuol Mynydd Du yn ne-ddwyrain Cymru yw Crug Hywel (Saesneg: Table Mountain). Mae'n codi i uchder o 451 m uwchben lefel y môr o ystlys ddeheuol Pen Cerrig-calch (701 m), ac mae'n sefyll uwchben tref Crucywel ac yn rhoi ei enw iddi.
Ar gopa'r bryn ceir bryngaer o Oes yr Haearn sy'n llenwi pen y mynydd i gyd. Mae ei ffos a chlawdd pridd a cherrig i'w gweld yn eglur. Mae'r ammddifynwaith unigol ar siap triongl neu ddeigryn afreolaidd sy'n dilyn amlinell naturiol y bryn. Ceir mynedfa sy'n troi i mewn ar ei hun yn y gongl orllewinol. Ymddengys na chafodd y bryngaer ei gwella yn ddiweddarach a bod yr adeiladwaith yn perthyn i un cyfnod yn unig.
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |