Pen Dinas
Oddi ar Wicipedia
Pendinas yw'r enw ar y bryn i'r de o Aberystwyth. Adnabyddir y bryn yn syth gan y twr uchel sy'n ei goroni. Ar yr ochr orllewinol i Ben Dinas, rhed yr Afon Ystwyth i'r môr, tra fod harbwr Aberystwyth a'r Afon Rheidol yn gorwedd i'r gogledd. Ceir golygfeydd hyfryd y ddyffrynoedd y ddwy afon, tre Aberystwyth, y Llyfrgell Genedlaethol a Bae Ceredigion o ben y bryn. Saif y copa 114 metr uwchlaw lefel y môr.
[golygu] Hanes
Fel yr awgryma siap y bryn, adeiladwyd Caer Oes yr Haearn ar Ben Dinas, sydd o bosibl yn esbonio'r enw hefyd. Yn ystod palu archeolegol yn ystod y 30au, darganfuwyd olion o grochenwaith yn dyddio o tua 100 CC ar y bryn. Credir i'r gaer gyntaf gael ei hadeiladu gan y Celtiaid ar ochr ogleddol y bryn, ac na adeiladwyd ar copa deheuol y bryn tan ddegawdau'n ddiweddarach. Er fod nifer o gaerau Oes yr Haearn eraill yn y cyffiniau, mae arddull adeiladu'r gaer yn fwy tebyg i Gaerau a welir i'r dwyrain, yn agosach at y ffin bresennol a Lloegr, sy'n awgrymu o bosibl i'r gaer gael ei hadeiladu gan fudwyr o'r dwyrain tua 300 CC (Stanford: 1972). Mae'n debyg i ddyfodiad y Rhufeiniaid ddod a bywyd y Gaer i ben.
Cofgolofn o'r 19eg ganrif yw'r twr a welir heddi. Mae'r twr, sydd ar siap cannon yn gwynebu i fyny yn deyrnged i Syr Thomas Picton, un o gadfridogion y Dug Wellington a fu farw yn Waterloo. Gobeithiwyd coronni'r golofn gyda cherflun o Picton, ond mae'n debyg nad oedd digon o arian i wneud hynny.
[golygu] Cyfeiriadau
- Pen Dinas Iron Age hillfort, David M. Browne (Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, 2004 [1]
- 'Welsh border hill-forts', S. C. Stanford, yn The Iron Age in the Irish Sea Province (C.B.A. Research Report 9, 1972) tud. 35[2]
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |