See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Bryngaer Coed Llanmelin - Wicipedia

Bryngaer Coed Llanmelin

Oddi ar Wicipedia

Bryngaer o Oes yr Haearn ym mhlwyf Llanmelin, ger Caer-went yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, yw bryngaer Coed Llanmelin (neu fryngaer Llanmelin). Cyfeirnod OS (map 171) ST 460 925.

Ymddengys ei bod yn gaer bwysig. Cafodd ei chloddio'n sylweddol yn 1930-32 ac mae canlyniadau'r cloddio'n dangos iddi ddatblygu o fod yn gaer un-mur i un â muriau dwbl consentrig tua'r flwyddyn 150 CC. Yn ystod y ganrif a hanner nesaf ehangwyd y gaer yn sylweddol eto ac ychwanegwyd gwaith amddiffynnol allanol i warchod y brif fynedfa tua 50 CC. Mae crochenwaith a ddarganfuwyd yn y gwaith ychwanegol hyn yn debyg i grochenwaith o ardal Glastonbury yn yr un cyfnod.

Mae'r gaer yn mwynhau sefyllfa naturiol cryf ar ben bryn 300 troedfedd o uchder ger arfordir Gwent yn edrych i lawr ar ardal Caer-went. Mae rhai archaeolegwyr a haneswyr yn awgrymu iddi fod yn ddinas gaerog a wasanaethai fel canolfan llwyth y Silwriaid cyn yr oresgyniad Rhufeinig yng Nghymru, ond does dim tystiolaeth i brofi hynny'n derfynnol. Ond mae'r ffaith fod y Rhufeiniaid wedi dewis Caer-went (Venta Silurum) fel "prifddinas" y Silwriad ar ôl y goncwest (OC 74-79) yn tueddu i ategu'r ddamcaniaeth honno.

I'r de o'r gaer ceir amddiffynfa ychwanegol ac olion cytiau canoloesol. Ymddengys i'r gaer gael ei rhoi i fyny yn fuan ar ôl y goresgyniad Rhufeinig.

[golygu] Cyfeiriadau

  • A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn I. Ll. Foster a Glyn Daniel, Prehistoric and Early Wales (1965). Tud. 141.
  • Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain, 1978)


Bryngaerau Cymru
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -