Glastonbury
Oddi ar Wicipedia
Tref yng Ngwlad yr Haf yn ne-orllewin Lloegr yw Glastonbury. Yr hen enw Cymraeg ar y lle oedd Ynys Wydrin, efallai oherwydd i'r "Glas" yn yr enw gael ei gam-gyfieithu i olygu "gwydyr".
Cysylltir Glastonbury a'r chwedl am Joseff o Arimathea yn dwyn y Greal Santaidd i Ynys Brydain, ac a'r chwedlau am y brenin Arthur. Yn 1191, cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn 1184, wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o blwm gyda'r arysgrif :
- HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA
"Yma y gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".
Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn.