Mynydd Twr
Oddi ar Wicipedia
Mynydd Twr Ynys Môn |
|
---|---|
Llun | Mynydd Twr o gyfeiriad Caergybi |
Uchder | 220m / 722 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mynydd Twr, pwynt uchaf Ynys Gybi, yw'r bryn uchaf ym Môn. Mae'n gorwedd tua 3 km i'r gorllewin o dref Caergybi, gan godi'n syth o Fôr Iwerddon ar ddwy ochr. Ar ei ochr ddwyreiniol ceir tŵr gwylio, neu oleudy, sy'n perthyn i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn ogystal ceir grŵp o gytiau wedi eu hamgylchynu gan fur sy'n dyddio i Oes yr Haearn. Chwarelwyd y cerrig ar gyfer morglawdd Caergybi o'r mynydd yn ogystal.
Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Mynydd (y) Tŵr" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond camgymeriad yw hynny. Mae'r gair twr yma yn golygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pentwr") ac yn cyfeirio at y twr o gerrig neu garnau ar ben y mynydd.[1] Holyhead Mountain yw'r enw yn Saesneg.
[golygu] Caer y Twr
Ar ben Mynydd Twr ceir bryngaer neu bentref caerog a elwir yn Gaer y Twr. Mae'n dyddio i tua'r 2il ganrif OC ac yn amgau tua 17 acer o dir. Garw ac anwastad yw'r tir oddi mewn a does dim olion o'r cytiau heddiw. Ceir caeau bychain ar ffurf terasau i'r gogledd-orllewin, tu allan i'r gaer. Mae'r mur amddiffynnol i'w gweld ar ei orau ar yr ochr ogleddol, gyda thrwch o 13 troedfedd a mur allanol sy'n cyrraedd 19 troedfedd o uchder gyda cerddedfa i'r amddiffynwyr tua llathen yn uwch na'r llawr mewnol.[2]
[golygu] Hamdden
Mae Mynydd Twr yn denu nifer o ymwelwyr, yn arbennig yn yr haf. Tuag 1 filltir i'r gorllewin ceir goleudy Ynys Lawd a daw nifer o bobl i weld yr adar sy'n nythu ar hyd y clogwynni rhwng Ynys Lawd a Mynydd Twr.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Cyngor Gwlad Môn, 1972).
- ↑ Katherine Watson, North Wales yn y gyfres 'Regional Archaeologies' (Cory, Adams & Mackay, 1965).
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |