See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Dinorwig (bryngaer) - Wicipedia

Dinorwig (bryngaer)

Oddi ar Wicipedia

Bryngaer ger pentref Llanddeiniolen yng Gwynedd yw Dinorwig neu Dinas Dinorwig. Ystyr yr enw yw 'Caer (din) yr Ordoficiaid', sy'n cyfeirio at y llwyth Celtaidd a drigai yn y rhan honno o Ogledd Cymru ar ddiwedd Oes yr Haearn ac yn y cyfnod Rufeinig.

Dinas Dinorwig o'r gorllewin
Dinas Dinorwig o'r gorllewin

Mae'n fryngaer 2 erw a hanner 556 metr i fyny ar fryn isel islaw Moel Rhiwen, tua milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Landdeiniolen. Mae gweddillion cynnar eraill yn y cyffiniau yn cynnwys caer fach filltir i'r de, ger Penisa'r Waun, ac un arall dwy filltir i'r dwyrain ('Castell', ger Rhiwlas). Hefyd yn yr ardal ceir Ffynnon Cegin Arthur, hanner milltir i'r de-ddwyrain.

[golygu] Gwaith amddiffyn

Codwyd yr amddiffynfa gyntaf i amgae darn o dir o siâp gellygen â'i ben meinaf tua'r gogledd gyda mur cerrig syml. Ceir mynedfeydd syml, bylchau yn y mur yn unig, yn y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain.

Yn ddiweddarach ychwanegwyd cloddiau a ffosiau dwbl cryf tu allan i'r mur cerrig gan gau un fynedfa ond creu un newydd yn arwain i'r hen un yn y gogledd-orllewin. Yn ogystal codwyd atodiad un erw ar wahân i'r brif strwythr.

[golygu] Darllen pellach

Ni chloddiwyd y gaer eto, ond ceir disgrifiad llawnach honi yn:

  • RCAHM Sir Gaernarfon, cyfrol II, rhif 1170 (HMSO, Llundain)
  • Dr. Willoughby Gardner, adroddiad yn Archaeologia Cambriensis, XCVIII (1947), 231-48


Bryngaerau Cymru
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -