Dinorben
Oddi ar Wicipedia
Bryngaer o faint canolig ger arfordir gogledd Cymru yw Dinorben. Mae'n gorwedd ar fryn i'r de o bentref Llan Sain Siôr, ym mwrdeisdref sirol Conwy, tua hanner ffordd rhwng Llanelwy ac Abergele. Cyfeirir ati weithau fel 'Parc y meirch', ar ôl yr ystâd gerllaw.
Cafodd y fryngaer ei gloddio gan archaeolegwyr yn 1912-22 ac yn achlysurol ers 1955 er mwyn cofnodi'r safle sy'n cael ei ddinistrio gan waith y chwarel yno. Mewn canlyniad mae'n un o fryngaerau mwyaf adnabyddus y gogledd i archaeolegwyr.
Nid oedd yn gaer fawr iawn, gan amgau tua 2 hectar yn unig. Fe'i amddiffynir gan greigiau calchfaen y bryn (safle'r chwarel heddiw) i'r gogledd a chyfres o waith amddiffynnol anferth i'r de. Ar ei hanterth, roedd yr amddiffynfeydd hyn yn cynnwys clawdd anferth gyda dau arall, llai, y tu allan iddo. Yn ei ffurf derfynnol roedd gan y porth fynedfa hir o gerrig 10 medr o hyd gyda siambrau i amddiffynwyr yn ei ben mewnol.
Cafwyd hyd i olion nifer o gytiau tu mewn i'r muriau. Ar sail tystiolaeth y cloddio yn y cytiau hyn, sy'n cynnwys crochenwaith a darnau pres o'r 3edd a'r 4edd ganrif OC, tybir fod y gaer yn dyddio o gyfnod Oes yr Haearn ac iddi gael ei defnyddio trwy gyfnod y Rhufeiniaid ac iddi barhau fel un o ganolfannau llwythol lleol y Deceangli brodorol yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Cafwyd nifer o esgyrn ceirw yn ystod y cloddio.
Darganfuwyd olion gweithio plwm a haearn yn y gaer. Cafwyd hyd i ddau glust bwced efydd ar ffurf pennau teirw, sydd ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
[golygu] Darllen pellach
- W. Gardner & H. N. Savory, Dinorben (1964, 1971)
- Katherine Watson, North Wales yn y gyfres Regional Archaeologies (Llundain, 1965)
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |