Deceangli
Oddi ar Wicipedia
Roedd y Deceangli neu Deceangi yn un o'r llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru yn yr Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid. Yr oedd y llwyth yn byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn ôl pob tebyg yn y tiriogaethau sy'n cyfateb i Sir Ddinbych a Sir y Fflint heddiw.
Daeth y Rhufeiniaid i gysylltiad a'r llwythau Cymreig am y tro cyntaf tua 48 O.C. pan ymosododd llywodraethwr Prydain, Publius Ostorius Scapula ar y Deceangli. Nid ymddengys eu bod wedi gwrthwynebu rhyw lawer, yn wahanol iawn i'w cymdogion yr Ordoficiaid a'r Silwriaid yn y de. Ni wyddir am unrhyw dref yn eu tiriogaeth, ond efallai fod rhyw fath o dref yn bodoli o amgylch caer Rufeinig Canovium (Caerhun). Gall fod y gaer yma ar Afon Conwy yn nhiriogaeth y Deceangli, neu efallai ei bod yn gwarchod y ffin rhyngddynt hwy a'r Ordoficiaid, ynghyd â'r man croesi strategol ar yr afon.
Saif bryngaer sylweddol Pen y Corddin (ger Llanddulas), a godwyd yn Oes yr Haearn, yng ngogledd-orllewin tiriogaeth y Deceangli; cafwyd hyd i ddrylliau o grochenwaith Rhufeinig yno ac ymddengys hefyd iddi gael ei hatgyweirio yn y cyfnod Rhufeinig. Ar hyd yr arfordir i'r dwyrain ceir bryngaer Dinorben. Roedd yn cael ei phreswylio yn y cyfnod Rhufeinig a darganfuwyd crochenwaith a darnau arian yn dyddio o'r 3edd a'r 4edd ganrif yno. Mae bryngaerau eraill ar diriogaeth y Deceangli yn cynnwys Foel Fenlli, Moel Arthur a Moel Hirarddug.
Cedwir yr enw "Deceangli" fel "Tegeingl", y cantref oedd yn cyfateb i ran helaeth o Sir y Fflint heddiw. Cafwyd hyd i nifer o ddarnau o blwm a stamp DECEANG neu rywbeth tebyg arnynt, ac ymddengys fod y rhain yn deillio o diriogaeth y llwyth yma yn y cyfnod Rhufeinig. Mae'n bosibl hefyd fod yr enw lle Degannwy yn deillio o'r enw Deceangli, er nad yw pob ieithydd yn cytuno.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Deceangi gwybodaeth yn Saesneg o Roman-Britain.org
Llwythau Celtaidd Cymru | ||
---|---|---|
Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid | |
||
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |