Conwy (sir)
Oddi ar Wicipedia
- Am y dref o'r un enw, gweler Conwy (tref). Gweler hefyd Conwy (gwahaniaethu).
Conwy | |
Bwrdeistref sirol yng ngogledd Cymru yw Conwy. Mae'n cynnwys rhan o'r hen sir Gwynedd (Sir Gaernarfon cyn hynny) i'r gorllewin o afon Conwy a rhan o'r hen sir Clwyd (yr hen Sir Ddinbych cyn hynny) i'r dwyrain o'r afon honno. Lleolir pencadlys y sir ym Modlondeb, Conwy.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth a ffeithiau eraill
Mae'r prif drefi yn y sir yn cynnwys Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanrwst, Betws-y-Coed, Conwy, Bae Colwyn, Abergele, Penmaenmawr a Llanfairfechan ac mae ganddi boblogaeth o tua 110,000 o bobl.
Gorwedd afon Conwy (yr enwir y sir ar ei hôl) yn gyfangwbl o fewn yr ardal gan redeg trwy ei chanol lies: mae'n llifo o'i tharddle yn Llyn Conwy ger Ysbyty Ifan i lawr trwy Ddyffryn Conwy i'r môr ger Conwy.
Mae'n sir amrywiol iawn o ran ei thirwedd. Gellid ei rhannu yn sawl ardal ddaearyddol: ardal y Creuddyn ac arfordir Rhos yn y gogledd, bryniau isel a chymoedd Rhos ei hun yn y dwyrain, Dyffryn Conwy a Nant Conwy yn y canol, ac arfordir Arllechwedd a mynyddoedd y Carneddau yn Eryri yn y gorllewin.
Gorwedd traen o ardal y sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac mae'r cyngor yn apwyntio 18 aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 39.7% o'r boblogaeth yn medru "un neu ragor o sgiliau" yn y Gymraeg, sy'n ei gwneud y 5ed allan o 22 awdurdod unedol Cymru o ran nifer y siaradwyr Cymraeg [1].
Ond mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn amrywio'n fawr o ardal i ardal, gyda llai o lawer ar yr arfordir, canlyniad i'r Seisnigeiddio dybryd yno wrth i nifer o bobl wedi ymddeol symud i mewn, o Loegr yn bennaf.
Engreifftiau o nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl lle [2]:
- Mostyn 19.7%
- Bae Colwyn 22.6%
- Conwy 33%
- Trefriw 50%
- Eglwysbach 63%
- Dyffryn Conwy (rhan uchaf) 66.8%
- Llangernyw 69.3%
- Cerrigydrudion 76%
[golygu] Trefi a phentrefi
- Abergele
- Bae Colwyn
- Bae Cinmel
- Bae Penrhyn
- Betws-y-Coed
- Capel Curig
- Capel Garmon
- Cerrigydrudion
- Conwy
- Cyffordd Llandudno
- Deganwy
- Dolgarrog
- Dolwyddelan
- Dwygyfylchi
- Eglwysbach
- Glan Conwy
- Gwytherin
- Gyffin
- Hen Golwyn
- Llanbedr-y-Cennin
- Llandrillo-yn-Rhos
- Llandudno
- Llanddoged
- Llanddulas
- Llanfairfechan
- Llanfair Talhaiarn
- Llangernyw
- Llanrwst
- Llysfaen
- Melin-y-coed
- Mochdre
- Pandy Tudur
- Penmachno
- Penmaenmawr
- Pentrefoelas
- Rowen
- Tal-y-bont
- Tal y Cafn
- Trefriw
- Ty'n-y-Groes
- Towyn (Conwy)
- Ysbyty Ifan
[golygu] Cymunedau
Ceir 34 cymuned yn y sir:
[golygu] Cestyll
Plasdy hynafol yw Castell Gwydir, yn Nyffryn Conwy.
[golygu] Dolenni allanol
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn Berain | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |
Siroedd a Dinasoedd Cymru | |
Dinasoedd, Bwrdreisdrefi a Siroedd gweinyddol ers 1996 |