Dolgarrog
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn sir Conwy a Dyffryn Conwy yw Dolgarrog. Saif ar y ffordd B5106 ar hyd glan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tal-y-Bont a Threfriw. Mae Afon Porthlwyd, sy'n llifo o Lyn Eigiau a thrwy gonfa ddŵr Coedty, yn ymuno ag Afon Conwy ger rhan ogleddol y pentref, tra mae Afon Ddu, sy'n llifo o Lyn Cowlyd, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw'r rhan ddeheuol. Mae gorsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ar yr ochr arall i'r afon, a phont i gerddwyr yn ei chysylltu â'r pentref.
Nodir fod melin flawd ar Afon Porthlwyd yn y 18fed ganrif. Dechreuwyd cynllunio y gwaith aliwminiwm yma yn 1895, ac agorwyd y gwaith yn 1907. Mae'n defnyddio trydan dŵr. Ar hyn o bryd mae'r ffatri yn eiddo i Dolgarrog Aluminium Ltd.
Ar 2 Tachwedd, 1925, torrodd argae Llyn Eigiau, ac o ganlyniad i'r dŵr yn rhuthro i lawr y llethrau i gronfa Coedty, torrwyd yr argae yma hefyd. Boddwyd 16 o bobl yn Nolgarrog. Agorwyd llwybr coffa yn 2004 yn mynd heibio mannau arwyddocaol ac yn egluro'r digwyddiad.
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn Berain | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |