Ysbyty Ifan
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn sir Conwy yw Ysbyty Ifan. Lleolir y pentref ar lannau Afon Conwy ifanc, rhai milltiroedd i'r de o Bentrefoelas ar lôn y B4407 (sy'n cysylltu Pentrefoelas ar yr A5 â Ffestiniog). Hen enw Ysbyty oedd Dolgynwal.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr ysbyty
Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal yn rhan o gwmwd Is Aled, cantref Rhufoniog. Daw enw'r pentref o un o ysbytai Marchogion yr Ysbyty a sefydlwyd yno tua'r flwyddyn 1190 gan Ifan ap Rhys o Drebrys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Er bod Ysbyty Ifan yn ymddangos yn lle digon diarffordd heddiw, yn yr Oesoedd Canol safai ar ffordd bwysig a gysylltai Llŷn ac Eryri i'r gorllewin ac ardaloedd y Gororau i'r dwyrain. Cafodd yr Ysbyty nawdd gan Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf ac yn y 13eg ganrif roedd gan y sefydliad enw da am ei letygarwch. Roedd gan yr ysbyty (hosbis), a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i Ynys Enlli, yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac yn ddiweddarach arweiniodd hynny at sawl herwr guddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y 15fed ganrif pan roddodd yr uchelwr lleol Maredudd ap Ieuan derfyn arno.[1]
[golygu] Y pentref
Mae pont ddeniadol sy'n dyddio o'r 18fed ganrif yn croesi Afon Conwy yn y pentref. Gerllaw ceir bythynnod traddodiadol sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth werinol Eryri a'r cylch. Ar lan yr afon saif hen felin a adeiladwyd yn yr 17eg ganrif. Am gyfnod defnyddid olwyn dŵr y felin i gynhyrchu trydan (hyd 1961).
[golygu] Yr eglwys
Codwyd yr eglwys bresennol, Eglwys Sant Ioan, yn 1861 ar safle'r hen eglwys. Ynddi cedwir tair cofeb o'r hen eglwys, o Rys Fawr ap Maredudd o Fryn Gwyn, a ddygodd faner Harri Tudur ar Faes Bosworth, ei wraig Lowri, a'u trydydd fab Robert, a fu'n gaplan i'r Cardinal Wolsey..[2]
Ym mynwent yr eglwys mae bedd Sion Dafydd Berson neu Sion Dafydd Glocsiwr oedd yn berson yn hen gapel yr Owen ym Mhentrefoelas; ef oedd athro Twm o'r Nant ac ef a'i dysgodd i ddarllen gyntaf. Ar ei garreg fedd mae englyn gan Twm o'r Nant i'w hen athro: "Galar, i'r ddaear ddu - aeth athraw..."
[golygu] Enwogion
- Rhys Fawr ap Maredudd - marchog canoloesol
- Wiliam Cynwal - bardd o'r 16eg ganrif, enwog am ei ymryson barddol ag Edmwnd Prys
- T. Osborne Roberts - ganwyf 12 Chwefror 1879. Cyfansoddodd "Pistyll y Llan", "Y Nefoedd" a thôn "Pennant". Priododd Leila Megane.
[golygu] Atyniadau eraill
- Llyn Conwy - tarddle Afon Conwy
- Y Migneint - corsdir eang sy'n lle da am adar
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ W. Ogwen Williams, 'A note on the history of Ysbyty Ifan', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 15 (1954).
- ↑ W. Ogwen Williams, op. cit..
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn Berain | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |