Twm o'r Nant
Oddi ar Wicipedia
Bardd a dramodydd sy'n enwog am ei anterliwtiau oedd Thomas Edwards neu Twm o'r Nant (Ionawr, 1739 - 3 Ebrill, 1810). Daeth yn ffigwr amlwg ym mywyd y werin ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ac mae ei waith yn adleisio profiad a theimlad y dosbarth hwnnw yn wyneb anghyfiawnderau mawr yr oes. Yn ystod ei oes cafodd ei alw "y Cambrian Shakespeare" gan ei edmygwyr.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gyrfa Twm
Ganwyd Twm ym Mhenparchell Isaf, ym mhlwyf Llanefydd, Sir Ddinbych yn 1739. O fewn dwy flynedd symudodd y teulu i'r Nant Uchaf yn Nantglyn (y "Nant" yn ei lysenw), hefyd yn Sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond dysgodd elfennau darllen a sgwennu Cymraeg mewn ysgol rad a sefydlwyd yn Nantglyn. Dywed Twm yn ei hunangofiant ei fod wedi sgwennu ei anterliwt gyntaf yn 9 mlwydd oed. Gweithiodd fel gwas fferm, fel ei dad o'i flaen. Ond cyn hir roedd yn perfformio mewn anterliwtiau yn ffeiriau gogledd-ddwyrain Cymru. Priododd ei gariad Elizabeth Hughes yn 24 oed ar 19 Chwefror 1763, mewn gwasanaeth yn Llanfair Talhaearn a arweinwyd gan y bardd Ieuan Brydydd Hir, a chafodd ferch yn Rhagfyr yr un flwyddyn. Bu fyw â'i wraig yn y gogledd hyd 1769 gan ennill bywoliaeth fel cariwr coed yn Ninbych a Bachymbyd.
Yna daeth tro mawr ar ei fywyd ac aeth Twm i lawr i'r De a Sir Drefaldwyn i ddianc rhag ei ddyledwyr a threuliodd gyfnod helbulus yn cadw tafarn ac yn gofalu am dollborth yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
Dychwelodd Twm i'r gogledd yn 1789 a bu aros yno hyd ddiwedd ei oes. Cododd gartref i'r teulu ar ddarn o dir rhwng Natnglyn a Llansannan. Bu rhaid iddo droi ei law at sawl peth, yn cynnwys gwaith saer maen ac fel gosodwr ffwrnesiau a gratiau. Trodd fwyfwy at grefydd yn ei henaint a daeth yn gyfeillgar iawn â Thomas Charles o'r Bala. Mae'r anterliwtiau a gyfansoddodd yng nghyfnod olaf ei oes yn llawer llai masweddus ac yn adlewyrchu profiad Twm dan ddylanwad Methodistiaeth. Bu farw ar 3 Ebrill 1810 a chafodd ei gladdu ym mynwent Yr Eglwys Wen, ger Dinbych.
[golygu] Ei waith llenyddol
Cofir Twm yn bennaf am ei anterliwtiau. Math o ddrama boblogaidd a chwareid ar lwyfannau agored mewn ffeiriau a gwyliau mabsant oedd yr anterliwt. Ceir elfen gref o ffars a dychan ynddynt, ynghyd â beirniadaeth gymdeithasol a moesol. Yr anterliwtiau pwysicaf gan Twm o'r Nant yw:
- Tri Chydymaith Dyn (1762)
- Y Farddoneg Fabilonaidd (1768)
- Cyfoeth a Thlodi (1768)
- Pedair Colofn Gwladwriaeth (1786)
- Pleser a Gofid (1787)
- Tri Chryfion Byd (1789)
- Bannau y Byd (1808)
- Cybydd-dod ac Oferedd (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, 1870)
Ond mi fu Twm yn fardd hynod o boblogaidd yn ogystal. Ysgrifennodd nifer o garolau, baledi, cywyddau ac englynion. Gwerthid ei gerddi gan faledwyr yn y ffeiriau a chyhoeddwyd y gyfrol Gardd o Gerddi yn 1790. Cymerodd Twm ran flaenllaw yn Eisteddfod Caerwys 1798, eisteddfod fawr a oedd yn ymgais i adgyfodi traddodiad yr hen eisteddfodau yng Nghaerwys yn yr 16eg ganrif. Cafodd Twm ei wneud yn Ddisgybl Penceirddiad. O'r un cyfnod tyfodd gelyniaeth rhwng Twm a Dafydd Ddu Eryri a barodd am weddill ei oes.
Ysgrifennodd Twm o'r Nant hunangofiant byr a bywiog sy'n llawn o wybodaeth am ei fywyd a'i feddylfryd. Cedwir yn ogystal nifer o lythyrau ganddo.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith Twm o'r Nant
- Glyn M. Ashton (gol.), Anterliwtiau Twm o'r Nant: Pedair Colofn Gwladwriaeth a Cybydd-dod ac Oferedd (Caerdydd, 1964)
- eto, Hunangofiant a llythyau Twm o'r Nant (Caerdydd, 1962)
[golygu] Astudiaethau
- Wyn Griffith, Twm o'r Nant (Caerdydd, 1953). Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi.
- Saunders Lewis, 'Twm o'r Nant', Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973)
- Pennod Kate Roberts yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (1966)