Cyffordd Llandudno
Oddi ar Wicipedia
Tref fechan ym mwrdeistref sirol Conwy yw Cyffordd Llandudno. Tyfodd o gwmpas yr orsaf o'r un enw ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n cysylltu Llandudno a Blaenau Ffestiniog, yn defnyddio'r orsaf yn ogystal. Gan fod y rhan fwyaf o deithwyr yn ymwelwyr i Landudno daeth yr orsaf newydd i gael ei alw'n 'Gyffordd Llandudno'. Cyn dyfodiad y rheilffordd Tre Marl oedd enw'r pentref bach y tyfodd Cyffordd Llandudno ohoni. "Y Gyffordd" neu "Junction" yw ei enw ar lafar yn lleol.
Mae'n rhan o blwyf Llangystennin, gynt yn rhan o gwmwd Creuddyn. Fe'i lleolir tua tair milltir a hanner i'r de o Landudno ar lan ddwyreiniol Afon Conwy. Dros yr afon, sy'n aberu ym Mae Conwy yma, mae tref hanesyddol Conwy. Mae pont rheilffordd hynafol dros yr afon, a godwyd gan Robert Stephenson, hen bont grog a godwyd gan Thomas Telford, a phont ddiweddar yn cysylltu'r Gyffordd â Chonwy. Yn rhedeg dan yr afon ceir y twnel y mae lôn ddeuol yr A55 yn rhedeg drwyddo, gan osgoi'r Gyffordd ei hun. I'r gogledd mae Cyffordd Llandudno yn ymdoddi i dref Deganwy. I'r gogledd-ddwyrain mae bryniau'r Marl yn ei chysgodi. I'r dwyrain mae'r hen lôn yn arwain i Fochdre a Bae Colwyn.
Mae adeiladau yn cael eu codi ar hen safle ffatri Hotpoint ar ymyl y dref a fydd yn gartref i swyddfeydd rhanbarthol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Gogledd.
Ceir archfarchnad Tesco fawr a sinema amlsgrin ar gyrion y dref, rhwng yr orsaf a'r A55.
[golygu] Gwarchodfa Adar Glan Conwy
Yn ymyl y Gyffordd ar lan Afon Conwy ceir gwarchodfa adar Glan Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o'r Gyffordd i gyffiniau pentref Glan Conwy. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn Berain | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |