Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Penmaenmawr - Wicipedia

Penmaenmawr

Oddi ar Wicipedia

Penmaenmawr
Conwy
Image:CymruConwy.png
Image:Smotyn_Coch.gif
Erthygl am y dref o'r enw Penmaenmawr yw hon. Am y mynydd o'r un enw gweler Penmaen-mawr.

Mae Penmaenmawr yn dref ym mhlwyf Dwygyfylchi, yng ngogledd-orllewin Sir Conwy (hen Sir Gaernarfon), gogledd Cymru, poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref Conwy a Bangor, ar yr A55. Mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref Dwygyfylchi yn y gorllewin.

Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y 1980au, pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod Edwardaidd oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. Mae Penmaenmawr yn nodedig am ei llwybrau cerdded ar y bryniau a'i golygfeydd hardd. Mae Bwlch Sychnant yn denu ymwelwyr, ac mae rhan o'r dref yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Taflen Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Golygfa ar orllewin Penmaenmawr o'r Gwddw Glas
Golygfa ar orllewin Penmaenmawr o'r Gwddw Glas

Saif y dref ar lain o dir arfordirol tua 2 milltir o hyd a hanner milltir o led yn wynebu Bae Conwy a Môr Iwerddon i'r gogledd. Mae'r bae yn cael ei gysgodi gan bwynt de-ddwyreiniol Ynys Môn (Penmon) ac Ynys Seiriol yn y gogledd-orllewin a phenrhyn calchfaen Pen y Gogarth yn y gogledd-ddwyrain. Mae'r môr yn fas yma rhwng Traeth Lafan ac aber Afon Conwy. Mae'r traeth yn llydan, gyda rhag-draeth o gerrig mân crwn a llain eang o dywod melyn. Mae penmaen sylweddol yn gwahanu Penmaenmawr oddi wrth ei chymdogion. Yn y gorllewin saif talp anferth Penmaen-mawr ("Mynydd Penmaenmawr"), sy'n rhoi ei enw i'r dref, rhwng y dref a Llanfairfechan a'r gwastatir arfordirol ehangach sy'n ymestyn i gyffiniau Bangor. Yn y dwyrain mae creigiau syrth Penmaen-bach yn cyffwrdd y môr rhwng Penmaenmawr a Morfa Conwy. I gyfeiriad y de mae bwa o fryniau ac ucheldir yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin o Benmaen-bach i Benmaen-mawr, gan gychwyn gyda'r Alltwen uwchlaw Dwygyfylchi, ac yna Bwlch Sychnant (mae'r hen lôn yn croesi fan 'ma i Gonwy), Pen-sychnant, moel gron Foel Lys, Gwddw Glas ("Green Gorge" y twristiaid), Bryn Derwydd a blaenau Cwm Graiglwyd ac wedyn copa Penmaen-mawr ei hun. Mae Penmaenmawr yn goediog iawn a cheir hefyd ddigon o gaeau agored ar ymyl y dref. Mae Trwyn-yr-Wylfa, braich o'r Foel Lys, bron yn rhannu'r llain arfordirol yn ddau a hefyd yn dynodi'r ffîn rhwng Pant-yr-afon a Phenmaenan yn y gorllewin a'r "Hen Bentra'", sef Dwygyfylchi a Chapelulo, yn y dwyrain. Yn olaf mae dwy afon fach yn rhedeg trwy'r ardal i'r môr. Rhed y gyntaf, Afon Pabwyr, drwy lethrau coediog Cwm Graiglwyd ac yna dan ganol y dref, Pant-yr-afon, i'r prom a'r traeth; mae'r ail a'r fwyaf, Afon Gyrrach, yn rhedeg am o gwmpas 4 milltir o lethrau gogleddol Tal-y-Fan (2,001 troedfedd) i'r môr ar y traeth ger Penmaen-bach, gan basio trwy Nant Ddaear-y-llwynog (y "Fairy Glen") a'r "Hen Bentra'".

[golygu] Hanes

Y Meini Hirion uwchben Penmaenmawr, gyda Tal-y-Fan yn y cefndir
Y Meini Hirion uwchben Penmaenmawr, gyda Tal-y-Fan yn y cefndir

[golygu] Cyn-hanes

Ceir olion nifer o henebion cyn-hanesyddol ar yr ucheldir uwchlaw'r dref, yn cynnwys gweddillion ffatri bwyeill o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd ger copa Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu hallforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Ychydig yn uwch i fyny mae'r Meini Hirion ("Druid's Circle") yn un o'r cylchoedd cerrig cyn-hanesyddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu. Ar un adeg roedd copa Penmaen-mawr 1,500 troedfedd uwchlaw lefel môr ond erbyn hyn mae gryn dipyn yn is oherwydd y cloddio yn y chwarel. Coronid y gopa gan Braich-y-Dinas, a oedd yn un o'r bryngaerau mwyaf yn Oes yr Haearn yng Nghymru ac Ewrop, cyffelyb i Dre'r Ceiri yn ardal Trefor yn Llŷn; gwaetha'r modd dinistriwyd yr olion olaf yn y 1920au ac nid oes dim yn aros ohoni heddiw.

[golygu] Yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar

Yn ôl traddodiad, yn Oes y Seintiau roedd gan Sant Seiriol (fl. 6ed ganrif efallai), yr enwir Ynys Seiriol ar ei ôl, gell meudwy yng Nghwm Graiglwyd. Mae eglwys ddiweddar St Seiriol yng nghanol y dref yn dwyn ei enw heddiw. Roedd Seiriol yn fab i'r tywysog lleol Helig ap Glannog (gweler Chwedlau Lleol isod). Eglwys gynharaf Sant Gwynan yn Nwygyfylchi yw eglwys y plwyf heddiw. Cysylltir Penmaenmawr â Sant Ulo hefyd; mae Capelulo wrth droed Bwlch Sychnant yn safle capel canoloesol, yn ôl traddodiad. O ddechrau'r Oesoedd Canol ymlaen mae'r plwyf wedi bod yn rhan o Arllechwedd Uchaf, ac mae'r hen gwmwd hwn sydd, ynghyd ag Arllechwedd Isaf, yn rhan o gantref Arllechwedd, yn dal i gael ei ddefnyddio gan yr eglwys fel uned weinyddol heddiw.

[golygu] Tref Chwarel a Glan Môr

Promenâd Penmaenmawr gyda'r hen jetis a llethrau'r chwarel yn y cefndir, tua 1910 (hen gerdyn post)
Promenâd Penmaenmawr gyda'r hen jetis a llethrau'r chwarel yn y cefndir, tua 1910 (hen gerdyn post)

Dechreuwyd chwarelu ithfaen ar raddfa diwydiannol ym Mhenmaenmawr yn gynnar yn y 19eg ganrif. Wrth i'r chwarel dyfu tyrrodd gweithwyr a'u teuluoedd i Benmaenmawr o bob cwr o ogledd-orllewin Cymru a thu hwnt. Roedd y cysylltiad â phentref Trefor, sydd hefyd yn gartref i chwarel gwenithfaen sylweddol ar lethrau Yr Eifl, yn arbennig o agos. Roedd y gymuned a ddaeth i fodolaeth yn wardiau presennol Penmaenan a Phant-yr-afon yn glos ac, yn naturiol, yn gyfangwbl Gymraeg ei hiaith. Erbyn blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif gweithiai tua 1,000 o ddynion yn y chwarel a'r gweithdai yn perthyn iddi. Yr ochr arall i'r mynydd roedd Llanfairfechan hefyd yn rhan o'r datblygiadau hyn. Roedd bywyd ymhell o fod yn hawdd i'r chwarelwyr, yn arbennig felly y rhai a weithiai ar y llethrau uchaf. Disgwylid iddynt gerdded i fyny i gyffiniau'r gopa ar bob tywydd a thocwid eu cyflog pe na fedrent wneud hynny. Yn naturiol ddigon tyfodd ymdeimlad cryf o gymuned ac adlewyrchid hynny yn nghapeli, tafarnau a chymdeithasau niferus yr hen dref. Allforid cerrig ithfaen i borthladdoedd fel Lerpwl a dinasoedd Lloegr ar y rheilffordd ac hefyd ar y môr o ddau jeti'r chwarel i Lerpwl eto ac i nifer o borthladdoedd ar y cyfandir fel Hamburg yn ogystal.

[golygu] Penmaenmawr Heddiw

[golygu] Traddodiadau Lleol

[golygu] Chwedl Llys Helig

[golygu] Hen Rigwm

Mae genni iâr yn gori
Ar ben y Penmaen-mawr;
Mi es i droed yr Wyddfa
I alw hon i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd
A'i chywion gyda hi,
Hyd eitha tir Iwerddon,
Good morrow, John. How dee!

[golygu] Cyfleusterau, Clybiau a Chymdeithasau

[golygu] Cyfleusterau

  • Amgueddfa Bythynnod New York. Amgueddfa leol am y chwarel a'r pentre chwaryddol. Ffordd Bangor.
  • Gerddi Plas Eden. Gerddi bach gyda llwybr i'r deillion. Hen Ffordd Conwy, ger canol y dref.
  • Lawnt Bowlio Penmaenmawr. Station Road, ar y ffordd i'r traeth.

[golygu] Clybiau a Chymdeithasau

  • Clwb Golff Penmaenmawr. Cwrs 9 twll mewn lleoliad hardd ar Hen Ffordd Conwy, Dwygyfylchi.
  • Clwb Pêl Droed Pen Phoenix. Mae'r cae ar Ffordd Conwy ger trofan yr A55.

[golygu] Cludiant

Gorsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Bysus rheolaidd i gyfeiriad Bangor, Llangefni, Caernarfon a Llanberis tua'r gorllewin ac i Gonwy, Cyffordd Llandudno a Llandudno tua'r dwyrain.


Trefi a phentrefi Conwy

Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn Berain | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan

Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com