Edwardaidd
Oddi ar Wicipedia
Term poblogaidd sy'n cyfeirio at gyfnod teyrnasiad y brenin Edward VII, sef o 1901 hyd 1910, yw Edwardaidd. Fe'i defnyddir yn aml i gyfeirio at y 1900au yng ngwledydd Prydain yn gyffredinol neu, yn fwy neilltuol, i gyfeirio at arddull pensaernïol a chelfyddydau'r cyfnod. Fe'i defnyddir hefyd wrth gyfeirio at ddodrefn, celfi, dillad a.y.y.b. o'r 1910au.
Roedd yn gyfnod pan welwyd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth. Roedd yn gyfnod o sefydlogrwydd a heddwch, ar y cyfan, sy'n gorwedd rhwng diwedd Rhyfel De Affrica (y rhyfel yn erbyn y Boers) ac erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf. Dilynwyd y rhyfel byd gan gyfnod hir o ansicrwydd economaidd a gwleidyddol yn y 1920au a'r 1930au, a daeth pobl i ddechrau edrych yn ôl ar y 1900au fel rhyw fath o Oes Aur.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.