Arllechwedd Uchaf
Oddi ar Wicipedia
Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd, ac un o dri chwmwd cantref Arllechwedd, gydag Arllechwedd Isaf a Nant Conwy, oedd Arllechwedd Uchaf. Fel gweddill y cantref, roedd yn rhan o Esgobaeth Bangor.
Mae Arllechwedd Uchaf yn ardal fynyddig a garw a ddominyddir gan gadwyn hir y Carneddau, ond mae'n cynnwys llain o dir isel ffrwythlon ar hyd yr arfordir yn y gogledd, yn wynebu Bae Conwy rhwng Bangor a Penmaenmawr. Lleolid canolfan y cwmwd a phrif lys y cantref ei hun yn Abergwyngregin, efallai ar safle Garth Celyn. Yn ddiweddarach tyfodd Abergwyngregin yn brif lys i Wynedd gyfan yn oes Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd.
Ffiniai'r cwmwd a chymydau Arllechwedd Isaf i'r dwyrain a Nant Conwy i'r de, ac â chantref Arfon (cwmwd Arfon Is Gwyrfai) i'r gorllewin gyda chwrs afon Ogwen a'r Glyderau yn dynodi'r ffin, a ymestynnai mor bell i'r de â Pen-y-gwryd yng nghanol Eryri. Gorweddai Capel Curig ar y ffin rhwng Arllechwedd Uchaf a Nant Conwy. Rhedai'r ffin rhwng Arllechwedd Uchaf ac Arllechwedd Isaf dros gymoedd dwyreiniol y Carneddau hyd lethrau Tal y Fan, gan gyrraedd y môr yn y Penmaen-bach (y penrhyn sydd rhwng Penmaenmawr a Morfa Conwy heddiw.
Roedd fferi brysur yn cysylltu'r cwmwd ag ardal Penmon ar Ynys Môn; rhaid oedd croesi Traeth Lafan gyda'r llanw allan i'w defnyddio. Rhedai'r hen ffordd Rufeinig rhwng Caer a Segontiwm dros Fwlch y Ddeufaen. Parheai'r ffordd yn llwybr pwysig yn yr Oesoedd Canol. Rhedai llwybr pwysig arall i fyny Dyffryn Ogwen i Gapel Curig. Mae'n ardal gyfoethog ei henebion, gan gynnwys safle bryngaer diflanedig Braich-y-Dinas a chylch cerrig y Meini Hirion ger llaw. Roedd y prif "drefi" canoloesol i gyd yn gorwedd ar y llain arfordirol ac yn cynnwys Cororion, Y Wig a Bodsilin, yn ogystal ag Aber(gwyngregin) ei hun.
[golygu] Plwyfi
[golygu] Ffynhonnellau
- A. D. Carr, 'Medieaval Administrative Divisions', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1976)