Rhos
Oddi ar Wicipedia
- Am y cantref yn Sir Benfro, gweler Rhos.
Cantref yn Y Berfeddwlad yng ngogledd Cymru oedd Rhos (gorllewin Sir Ddinbych a dwyrain sir Conwy heddiw). Ymddengys yn bosibl fod Rhos yn un o fân deyrnasoedd Cymru yn y cyfnod ôl-Rufeinig a ddaeth yn rhan o deyrnas Gwynedd.
[golygu] Teyrnas Rhos
Yn ôl rhai o restrau achau Brenhinoedd a Thywysogion Cymru, sy'n rhestru tri ar ddeg o'i brenhinoedd, roedd Rhos yn deyrnas yn y cyfnod ôl-Rufeinig.
Ymhlith y brenhinoedd hynny roedd Cynlas ('Cynlas Goch'; Lladin Cuneglas), fab Owain Ddanwyn, y cyfeirir ato gan y mynach Gildas yn y 6ed ganrif. Yn ôl Gildas, roedd Cynlas yn teyrnasu yn gysylltiedig â rhyw receptaculi ursi ('ffau'r arth'), ac mae rhai ymchwilyr yn meddwl mai Dinerth, enw'r fryngaer ar ben Bryn Euryn yn Llandrillo-yn-Rhos, oedd 'ffau'r arth'. Ceir Llys Euryn, a fu ym meddiant Ednyfed Fychan ar ddechrau'r 13eg ganrif, wrth waelod y bryn. Ceir Ffordd Dinerth a Neuadd Dinarth gerllaw hefyd.
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi cloddio rhan o'r safle. Darganfuwyd olion mur amddiffynol sylweddol gyda wyneb o flociau calchfaen mawr a fyddai tua 10 troedfedd o uchder a lled o 11 troedfedd yn wreiddiol.
Ond nid yw pawb yn cytuno y bu Rhos yn deyrnas annibynnol fel y cyfryw ac mae ein gwybodaeth yn brin am ei hanes yn y cyfnod cynnar. Cysylltir y brenin Maelgwn Gwynedd â Rhos hefyd, ond mae traddodiad yn awgrymu mai safle Castell Degannwy oedd ei gadarnle; fe'i cofir fel brenin Gwynedd/Gogledd Cymru yn hytrach na brenin Rhos.
[golygu] Cantref Rhos
Yn y gogledd roedd y cantref yn wynebu Môr Iwerddon, yn y gorllewin ei ffin oedd bryniau dwyreiniol Dyffryn Conwy uwchlaw Afon Conwy a chantref Arllechwedd, yn y de ffiniai â chantref Rhufoniog ac yn y dwyrain â chantref Tegeingl gydag afonydd Elwy a Chlwyd yn ffin naturiol.
Rhennid y cantref yn dri chwmwd. Roedd Afon Dulas yn dynodi'r ffin rhwng dau ohonyn nhw a elwid yn gymydau Is Dulas ac Uwch Dulas oherwydd hynny. Yn y gogledd-orllewin yr oedd cwmwd y Creuddyn (ardal Llandudno a'r cylch heddiw) a oedd yn cael ei drin fel rhan o Wynedd ei hun ac a unwyd ag Arllechwedd, Arfon, Llŷn ac Eifionydd yn 1284 i greu Sir Gaernarfon.
Castell Degannwy oedd sedd y llys brenhinol a cheid safleoedd eglwysig pwysig yn Abergele a Llandrillo-yn-Rhos.
Teyrnasoedd Cymru | |
---|---|
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg |