See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Uwch Dulas - Wicipedia

Uwch Dulas

Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd Dulas (gwahaniaethu).

Cwmwd canoloesol yng ngogledd Cymru oedd Uwch Dulas. Gyda chymydau'r Creuddyn ac Is Dulas roedd yn ffurfio cantref Rhos.

Eglwysbach
Eglwysbach

Dynodai afon Dulas rhan isaf y ffin rhwng Uwch ac Is Dulas, o'i aber yn y môr yn Llanddulas (ger Bae Colwyn heddiw) i fyny i'r bryniau ger Betws yn Rhos. I'r de o'r ardal honno, ymestynnai'r cwmwd fel llain o dir uchel hyd at gyffiniau Pentrefoelas, gan ffinio â chantref Rhufoniog yn y de. Yn y gorllewin ffurfiai Dyffryn Conwy ffin naturiol, gyda'r cwmwd yn gorwedd ar lan ddwyreiniol afon Conwy. Yn y gogledd ffiniai â chwmwd y Creuddyn.

Roedd y rhan fwyaf o'r canolfannau pwysig yn gorwedd ger yr arfordir yn y gogledd, gan gynnwys Lanelian yn Rhos, Mochdre, Llandrillo yn Rhos, Llanddulas a Betws yn Rhos. Yn Nyffryn Conwy Llanrwst oedd y ganolfan bwysicaf. Yn y bryniau roedd plwyfi Llansanffraid Glan Conwy, Maenan, Eglwysbach a Llanddoged.

Roedd Uwch Dulas yn rhan o deyrnas Rhos yn yr Oesoedd Canol Cynnar ac yna'n rhan o Wynedd. Gydag Is Dulas daeth y cwmwd yn rhan o arglwyddiaeth Dinbych ar ôl goresgyniad Gwynedd (aeth y Creuddyn yn rhan o Sir Gaernarfon, ac ar ddiwedd yr Oesoedd Canol daeth yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Heddiw mae'n rhan o fwrdeisdref sirol Conwy ar ôl cyfnod yn rhan o sir Clwyd.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -