See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Erging - Wicipedia

Erging

Oddi ar Wicipedia

Teyrnas Gymreig o'r cyfnod ôl-Rufeinig a'r Oesoedd Canol Cynnar a chantref canoloesol oedd Erging (ceir y ffurf hynafiaethol Ergyng mewn llyfrau Saesneg). Roedd ganddi berthynas agos â hanes Teyrnas Gwent. Yn ddiweddarach cafodd tiriogaeth yr hen deyrnas ei galw yn Archenfield gan y Saeson.

[golygu] Hanes

Gorweddai'r deyrnas yn bennaf yn yr hyn sydd erbyn heddiw yn orllewin Swydd Henffordd yn Lloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd Mynwy a Gwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r Sir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref Rufeinig Ariconium (yn Weston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.

Mae gwreiddiau'r deyrnas yn anscir. Mae'n bosibl ei bod yn cynrychioli ffin ddwyreiniol awdurdod y Silwriaid, y bobl Geltaidd a drigai yn ne-ddwyrain Cymru pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid. Bu Erging yn rhan o deyrnas Glywysing (dwyrain Morgannwg) a Gwent), ond ymddengys iddi ddod yn annibynnol yn ystod teyrnasiad Peibio Clafrog, ganol y 6ed ganrif. Taid Sant Dyfrig, esgob cyntaf Erging, oedd Peibio, yn ôl yr achau. Roedd Erging yn ganolfan bwysig i gwlt y sant yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Roedd cefnder Dyfrig, Gwrgan Fawr, yn un o frenhinoedd mwyaf grymus Erging a reolai ardaloedd Gwent a Morgannwg hyd at lannau afon Nedd. Ymddengys mai ei ŵyr Athrwys ap Meurig oedd teyrn olaf yr Erging annibynnol a syrthiodd yn ôl dan reolaeth teyrnas Gwent ar ôl ei farw yn y flwyddyn 655.

[golygu] Archenfield

Daeth yr hen deyrnas yn gantref yn yr Oesoedd Canol. Rywbryd cyn i'r Normaniaid ddechrau ar eu goresgyniad, cipiwyd Erging gan y Saeson. Daethant i'w galw yn Archenfield, ond roedd ei statws yn bur niwlog: hyd at y Deddfau Uno yn 1536 roedd anscicrwydd cyfreithiol am ei statws gweinyddol fel rhan o Gymru neu ran o Loegr. Daeth yn rhan o Esgobaeth Henffordd pan fu Urban (1107-33) yn esgob Llandaf. Arosodd yr ardal yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig am ddegawdau yn wyneb y Diwygiad Protestannaidd.

Arosodd yr iaith Gymraeg yn fyw yn yr ardal tan ddechrau'r cyfnod modern. Mae tystiolaeth arolwg Llyfr Domesday (1086) yn awgrymu cymdeithas gwbl Gymraeg, er i'r ardal fod ym meddiant y Saeson ers canrif neu ddwy. Ceir rhestr o brif drigolion Irchingeld (Archenfield=Erging) yn y flwyddyn 1303 mewn un o ysgroliau memoranda'r llys Seisnig sy'n awgrymu fod mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Gymry: allan o tua hanner cant o enwau mae tua 45 yn enwau Cymraeg, e.e. Gruffudd ap Dafydd o Dreredenog, Nest o Bengelli, a.y.y.b.[1] Parhaodd yr iaith i gael ei siarad yn Erging tan o gwmpas 1700.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Natalie Fryde (gol.), List of Welsh entries in the Memoranda Rolls 1282-1343 (Caerdydd, 1974), tt. 22-23.
  • Wendy Davies, The Llandaff Charters (Caerdydd, 1979)
  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Caerlyr, 1982)
  • G. H. Doble, Lives of the Welsh Saints (Caerdydd, arg. newydd, 1971)
  • John Morris, The Age of Arthur (1973)
  • Raymond Perry, Anglo-Saxon Herefordshire (2002)
  • A. L. F. Rivet & Colin Smith, The Place-Names of Roman Britain (1979)


Teyrnasoedd Cymru Y Ddraig Goch
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -