Mynydd y Gaer
Oddi ar Wicipedia
Bryn yn sir Conwy, gogledd Cymru, gyda bryngaer ar ei gopa yw Mynydd y Gaer (Mynydd Gaer ar y map OS). Mae'n gorwedd tua milltir i'r gogledd-orllewin o bentref Llanefydd, 4 milltir i'r de o dref Abergele. Ei uchder yw 280 medr. Cyfeirnod OS: 972718.
Mae'r fryngaer ar y copa yn dyddio o Oes yr Haearn. Fe'i hamgylchynir gan glawdd a ffos sy'n ddyfnach ar yr ochr orllewinol. Mae'n gorwedd ar safle ardderchog gyda golygfeydd da dros ddyffryn Afon Elwy, sy'n llifo wrth droed y bryn, i gyfeiriad yr arfordir i'r gogledd, a thros Ddyffryn Clwyd i'r dwyrain. Hyd yn hyn ni chloddwyd y safle.
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Garn Saethon | Moel Arthur | Mynydd Twr | Mynydd y Gaer | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |