Llanafan
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llanafan Fawr, Powys, ac Afan (gwahaniaethu).
Pentref bychan a phlwyf yng ngogledd Ceredigion yw Llanafan. Gorwedd tua 9 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth ar ffordd wledig o Gwm Ystwyth i Bontarfynach. Cyfeirir at y pentref fel Llanafan Trawsgoed weithiau (gweler Trawscoed).
Gorwedd y plwyf yn hen gwmwd y Creuddyn, a fu'n rhan o gantref Penweddig yn yr Oesoedd Canol. Rhed afon Ystwyth heibio i'r pentref tua hanner milltir i'r de ohono lle ceir pont dros yr afon.
Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Afan ('Afan Buallt' neu'r 'Esgob Afan', fl. 500-542). Ceir Ffynnon Afan yn y plwyf. Mae'r eglwys yn byr hynafol ac yn cynnwys 'cangell wylo'.
[golygu] Gweler hefyd
- Trawscoed, safle caer Rufeinig a phlasdy hynafol