Y Ferwig
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Ceredigion yw Y Ferwig. Daw'r enw o'r Saesneg "Berwick", sy'n golygu "graens lle tyfir barlys".
Saif ar ochr ogleddol aber Afon Teifi, i'r gogledd o dref Aberteifi. Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Pedrog.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Gwbert a Phen-y-parc ac Ynys Aberteifi. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,177.