Ffostrasol
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Ffostrasol. Mae'n gorwedd ar yr A486 rhwng Synod Inn a Llandysul.
Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd wledig sy'n ei gysylltu â phentref Plwmp i'r gogledd, Synod Inn i'r gogledd-ddwyrain, Castell Newydd Emlyn i'r de-orllewin, a Llandysul i'r de-ddwyrain.
Y pentref agosaf yw Capel Cynon, tua 2 filltir i'r gogledd ar yr A486.