Troedyraur
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a chymuned yn ne Ceredigion yw Troedyraur neu Troed-yr-aur. Saif ar ffordd gefn i'r gogledd o dref Castell Newydd Emlyn. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Rhydlewis, Ffostrasol, Brongest, Capel Cynon, Coed-y-bryn, Croes-lan, Penrhiwpâl a Llangynllo.
Ceir yma fryngaer Dinas Cerdin ac adfail plasdy Bronwydd. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,408.