Llanfair Clydogau
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan gwledig yn ne Ceredigion yw Llanfair Clydogau. Fe'i lleolir ar lôn y B4343 tua 4 milltir i'r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan.
Saif ar lan ddwyreiniol Afon Teifi gyda bryniau Craig Twrch (1226 troedfedd) a Bryn Brawd (1588 troedfedd) yn gefn iddi i'r dwyrain, ar y ffin â Sir Gaerfyrddin. Mae tair nant Clywedog yn cyfarfod â'i gilydd yno.
Rhed ffordd Rufeinig Sarn Helen o'r gaer Rufeinig yn Llanio i gyffiniau Llanfair Clydogau. Yno, ychydig i'r gorllewin o'r pentref, mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio Llanymddyfri a Dolaucothi i Nidum (Castell Nedd), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.
Roedd digon o waith plwm ac arian yn yr ardal ar un adeg ond maent wedi pallu ers talwm. Filltir i lawr y lôn i'r de mae pentref bychan Cellan, magwrfa Moses Williams (ganed yno yn 1685) a'r ysgolhaig Griffith John Williams.