Gwbert
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn sir Ceredigion yw Gwbert. Saif i'r gogledd-orllewin o dref Aberteifi, ym mhen draw y ffordd B4548, ar ochr ogleddol aber Afon Teifi. Gerllaw mae Craig Gwbert ac ychydig ymhellach i'r gogledd ar hyd yr arfordir mae Ynys Aberteifi. Yr adeilad mwyaf yn y pentref yw'r Cilff Hotel.
Mae’r twyni tywod i'r de ac i'r dwyrain o'r pentref yn dirwedd hanesyddol, ond pentref pur newydd yw Gwbert ei hun, yn dyddio o'r 20fed ganrif.