Aberaeron
Oddi ar Wicipedia
Aberaeron Ceredigion |
|
- Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).
Tref arfordirol yng Ngheredigion yw Aberaeron. Saif ar bwys priffordd yr A487 tua hanner ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae lôn arall, yr A482, yn cysylltu'r dref â Llanbedr Pont Steffan i'r dwyrain.
Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol — o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.
Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron. Mae'r traeth yn braf ac wedi ennill baner las am ei lendid.
Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae tua 1,520 o bobl yn byw yn y dref ac mae dros 70% ohonyn nhw yn siaradwyr Cymraeg (2001); un o'r canrannau uchaf ar arfordir Ceredigion heddiw.
[golygu] Enwogion
- Syr Geraint Evans - bu'r canwr opera enwog yn byw yn Aberaeron am dros ddeng mlynedd ar hugain.