Llanwnnen
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yn Nyffryn Teifi yn ne Ceredigion yw Llanwnnen. Saif ar groesffordd ar yr A475 tua 4 milltir i'r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan, ac ar lan Afon Grannell, fymryn i'r gogledd o'r fan lle mae'r afon honno yn llifo i Afon Teifi. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 15fed ganrif, i'r santes Gwnnen.
Mae'r gymuned yn cynnwys dalgylch Afon Grannell. Mae yr Undodiaid yn gryf iawn yn yr ardal hon, ac o'r herwydd cafodd yr enw "y smotyn du" gan aelodau enwadau eraill. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,391.
Treuliodd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) (1792-1846) rhan helaeth ei oes ar fferm y teulu yn y plwyf.