Betws Leucu
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yng Ngheredigion yw Betws Leucu (neu Capel Betws Leucu/Capel Betws Lleucu). Fe'i lleolir ger Llangeitho, 4 milltir i'r gorllewin o Dregaron, 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.
Y santes Lleucu yw nawddsant y Betws. Ni wyddys yn union ai santes Gymreig anhysbys yw'r Lleucu hon ynteu Lucia, un o'r gwyryfon a gysylltir â'r santes Ursula.