Llanfihangel y Creuddyn
Oddi ar Wicipedia
Penref bychan yng Ngheredigion yw Llanfihangel y Creuddyn (ffurf amgen: Llanfihangel-y-Creuddyn). Mae'r elfen olaf yn yr enw yn cyfeirio at y Creuddyn, un o dri chwmwd cantref canoloesol Penweddig.
Gorwedd y pentref mewn cwm yn y bryniau isel rhwng afon Ystwyth i'r de ac afon Rheidol i'r gogledd, tua 7 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae'r eglwys yn bur hynafol ac yn un o'r sawl a gysegrir i Sant Mihangel.